ACiwbigo
Bwcio a Phrisiau
Apwyntiad cyntaf hyd at awr a hanner £60
Apwyntiadau wedi hynny hyd at awr £45 - £65 (Os gallwch, ystyriwch dalu ychydig mwy na £45. Mae hyn yn fy helpu i ddarparu triniaeth i'r rhai na allant fforddio'r gyfradd sylfaenol hwn.)
Mae llawer o gwmnïau yswiriant iechyd yn darparu yswiriant ar gyfer aciwbigo
Anfonwch e-bost i siwanmor@gmail.com i drefnu apwyntiad.
Amdan Aciwbigo
Mae aciwbigo yn system feddygol soffistigedig a chyflawn sydd wedi'i defnyddio ers miloedd o flynyddoedd i drin afiechyd, salwch a phoen. Mae'n parhau hyd heddiw i fod yn ymyriad meddygol effeithiol ar gyfer llawer o anhwylderau, corfforol ac emosiynol. Mae'n system gyfannol ac yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol salwch.
Beth sy'n digwydd mewn apwyntiad aciwbigo?
Yn eich apwyntiad cyntaf byddaf yn cymryd hanes meddygol llawn a manylion am dan eich cyflwr penodol. Byddaf yn teimlo'ch pwls ac yn edrych ar eich tafod. Mae'r rhain yn rhoi darlun i mi o'ch iechyd cyffredinol a byddant yn fy helpu i wneud diagnosis a llunio cynllun triniaeth.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau ymlacio yn ystod y driniaeth ac mae rhai cleifion hyd yn oed yn cwympo i gysgu.
Gall triniaethau aciwbigo gynnwys llawer o elfennau yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen.
Nodwyddau
Mae'r nodwyddau a ddefnyddir mewn aciwbigo yn dennau iawn. Fe'u gosodir yn ofalus i leoliadau manwl gywir ar y corff i sbarduno ac ysgogi mecanweithiau iachau naturiol y corff. Mae gosod nodwyddau yn ddi-boen yn y rhan fwyaf o achosion ond efallai y byddwch yn teimlo poen ychydig fel trydan ysgafn o bryd i'w gilydd. Mae nodwyddau'n cael eu gadael yn eu lle am tua 20 munud. Mae pob nodwydd yn un defnydd yn unig ac yn cael ei waredu ar ôl pob triniaeth.
Guasha, Cwpanu a Tylino
Os oes gennych chi densiwn yn eich corff efallai y byddaf yn defnyddio guasha, cwpanu neu dylino i leddfu hyn cyn gosod nodwyddau. Mae Guasha yn dechneg lle mae'r cyhyrau'n cael eu crafu'n ysgafn i gael gwared ar densiwn a rhwystrau eraill i wella. Mae pobl yn adrodd eu bod yn teimlo'n wych ar ôl guasha oherwydd gall y boen a achosir gan densiwn gael ei leihau'n fawr. Mae cwpanau sugno yn cael eu defnyddio eto i gael gwared ar densiwn o gyhyrau tynn ac i dynnu allan pathogenau fel oerfel, gwres a lleithder.
Moxa a Lamp Gwres
Mae Moxa a lamp gwres yn chwarae rhan fawr i helpu ddod â'r corff yn ôl i gydbwysedd. Perlysieuyn yw Moxa sy'n cael ei losgi a'i osod ger y corff i gynhesu ardaloedd o oerni a diffyg a hefyd i ysgogi pwyntiau aciwbigo yn ddyfnach. Gellir defnyddio lamp gwres dros y bol, y traed neu'r cefn wrth i'r nodwyddau wneud eu gwaith. Mae'r ddwy driniaeth hyn yn ddymunol iawn ac yn cynorthwyo effaith gyffredinol y driniaeth.
cyngor Ffordd Byw
Efallai y byddaf yn awgrymu rhai newidiadau ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â diet, ymarfer corff neu reoli straen. Mae'r rhan fwyaf o afiechydon yn datblygu dros gyfnod hir o amser ac yn aml yn gysylltiedig â sut yr ydym yn byw ein bywydau. Efallai y bydd angen rhai newidiadau syml i'ch ffordd o fyw hefyd.
Ar ôl triniaeth
Mae'n arferol i chi deimlo ychydig yn gysglyd ar ôl triniaeth felly ceisiwch ei gymryd yn hawdd am awr neu ddwy ar ôl hynny. Efallai y bydd rhai pobl yn gweld bod eu symptomau'n gwaethygu am rai dyddiau, sy'n normal ac sy'n adlewyrchu'r corff yn ceisio dod o hyd i'w gydbwysedd ar ôl triniaeth. Mae'n bwysig nodi unrhyw newidiadau i'ch symptomau ac adrodd yn ôl yn eich apwyntiad nesaf.
Faint o driniaethau?
Mae'n debygol y bydd angen sawl triniaeth arnoch cyn i chi weld newidiadau. Gan ddweud hynny mae rhai pobl yn dechrau teimlo'n well ar unwaith, mae'r cyfan yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi cael eich symptomau, pa mor ddifrifol ydyn nhw a pha mor gymhleth yw eich cyflwr.